Yn ddi-os, mae trawsblaniadau’n un o wyrthiau mawr meddygaeth fodern. Ond maent yn gwbl ddibynnol ar haelioni rhoddwyr a’u teuluoedd sy’n barod i roi rhodd a fydd yn achub neu’n trawsnewid bywyd rhywun arall.
Gall un rhoddwr achub bywyd nifer o bobl, gall adfer golwg dau berson a gwella ansawdd bywyd llawer mwy. Po fwyaf o bobl sy’n cytuno i roi eu horganau a’u meinwe ar ôl marw, po fwyaf o bobl fydd yn elwa. Trwy ddewis ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG gallech helpu i sicrhau bod bywyd yn mynd yn ei flaen i bobl eraill.
Mae ymuno â’r gofrestr yn cofnodi eich caniatâd i gael defnyddio eich organau a meinwe ar gyfer eu trawsblannu ar ôl i chi farw.
Pan fyddwch yn cofrestru mae’n bwysig eich bod yn dweud wrth y bobl sydd agosaf atoch am eich penderfyniad.
Mae penderfynu a ydych chi am fod yn rhoddwr ar ôl i chi farw’n rhywbeth personol iawn ac mae’n bwysig bod pawb yn gwneud ei benderfyniad ei hun. Mae’r llyfryn hwn yn ateb y cwestiynau mwyaf cyffredin a ofynnir am roi organau a meinwe ac mae’n ceisio tawelu unrhyw amheuon a all fod gennych yngl ^yn â gadael rhodd o fywyd i eraill ar ôl i chi farw.
Please email us if you have any other questions, we will do our best to answer them.